Stori Helen

Stori Helen

Fy enw i yw Helen, dwi’n 62 ac yn byw yn ardal Abertawe. Mae gen i ddiabetes math 2 a chlefyd cronig yn yr arennau cyfnod 3.

Un diwrnod pan oeddwn i yn y clinig arennol, mi gwrddais i â nyrs o’r Uned Ymchwil Clinigol (CRU) yn ysbyty Treforys yn Abertawe. Roedd hi’n edrych am bobl i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil. Ar ôl darllen trwy rywfaint o wybodaeth am yr astudiaeth a mynd i’r CRU i gael sgwrs, fe benderfynais i gofrestru.

Roedd yr astudiaeth yn golygu chwistrellu meddyginiaeth unwaith yr wythnos am 2 flynedd. Mewn gwirionedd, efallai nad oeddwn i’n cymryd y feddyginiaeth weithredol, efallai mai’r un ffug ges i (“plasebo”). Fe ga’i wybod hynny pan ddaw’r astudiaeth i ben. I gychwyn, roeddwn i’n mynd i’r CRU yn gymharol reolaidd fel y gallai’r tîm ymchwil wneud yn siŵr mod i’n iawn. Roeddwn i’n teimlo ychydig yn sâl ar y cychwyn ac roeddwn i’n teimlo nad oedd e werth e, ond mi ddaliais ati a dwi’n falch fy mod i wedi gwneud hynny.

Roedd y tîm yn y CRU yn wych. Roedden nhw’n fy ffonio i rhwng ymweliadau i wneud yn siŵr fy mod i’n iawn ac roeddwn i’n gallu cysylltu â nhw unrhyw bryd. Doeddwn i byth yn teimlo’n faich ar unrhyw un. Daeth yr ymweliadau’n llai aml a newidion nhw i rai bob chwe wythnos (gydag ymweliadau ffôn) ac yna bob chwe mis. Erbyn hyn, dwi wedi gorffen cymryd y “feddyginiaeth” ond mae’n rhaid i mi fynd yn ôl am un ymweliad olaf mewn pedair wythnos. Pan gaiff canlyniadau’r astudiaeth eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf, mi fydda i’n cael gwybod a chefais i’r feddyginiaeth newydd neu blasebo.

I mi, does dim gwahaniaeth pa un yr oeddwn i’n ei gymryd gan fod cymryd rhan yn yr astudiaeth wedi bod o fudd mawr i mi. Dwi wedi colli 4 stôn a hanner, mae fy HbA1c wedi disgyn i lefel lle na fyddwn i’n cael fy ystyried yn ddiabetig mwyach ac mae fy mhrofion arennau wedi aros yn sefydlog. Cyn i mi gymryd rhan yn yr astudiaeth, roeddwn i wedi magu llawer o bwysau a doeddwn i ddim yn hoffi mynd allan. Yn wir, dwi’n credu fy mod i wedi dechrau cael y felan.  Nawr, dwi wedi newid fy ffordd o fyw yn llwyr! Dwi’n dilyn cynllun bwyta’n iach gyda fy ngŵr, sydd hefyd â diabetes math 2, dwi’n mynd i nofio ac mae gen i fywyd cymdeithasol unwaith eto. Dim yr astudiaeth sydd wedi gwneud y pethau hyn i gyd, ond mae wedi fy ysgogi i wneud y newidiadau hynny.

Byddwn i’n hapus iawn i gymryd rhan mewn astudiaeth arall pe bai’n addas i mi. Mae’n beth gwych i’w wneud!

Cymerodd Helen ran mewn astudiaeth a oedd yn recriwtio mewn sawl man ledled y DU ac mewn 30 o wledydd eraill o bedwar ban byd. Nod yr astudiaeth yw gwerthuso effeithiau a chanlyniadau tymor hir eraill therapi newydd i bobl â diabetes math 2 ar y galon a’r pibellau gwaed. Mae’r astudiaeth yn tynnu at y terfyn a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2016. Abertawe a Florida oedd prif sefydliadau’r astudiaeth, a ariannwyd gan y diwydiant.