Gwybodaeth i Ymchwilwyr
Mae DRU Cymru yn cefnogi rhwydwaith o ymchwilwyr, staff ymchwil a safleoedd ymchwil ledled Cymru, gan ddarparu ymchwil o safon uchel ym maes diabetes. Gallwn gynnig:
- Cyngor ac arbenigedd mewn perthynas â datblygu therapïau a dyfeisiau ar gyfer trin a hunan-reoli diabetes
- Cyngor a chymorth ar gynllunio a chynnal treialon clinigol ac astudiaethau eraill sydd wedi’u cynllunio’n dda
- Safleoedd ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gwerthuso therapïau a dyfeisiau newydd
- Cyngor a chymorth ar gyfer y rhai sydd am gynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd
- Cyfleusterau labordy canolog
- Cysylltiadau cadarn â phartneriaid masnachol
I ddysgu mwy am yr hyn y gall Grŵp Ymchwil Diabetes
ei gynnig, cysylltwch â DRNW@swansea.ac.uk