Stori Sarah

"NID OES yna hanes o ddiabetes yn y teulu, felly mae hyn wedi bod yn wers amlwg i mi a fy nheulu. Roeddem yn anwybodus iawn ynghylch y peth.

Rwy'n 45 oed, ac yn fam sengl i Bronwyn, 22 oed, Matthew 21 oed a Meghan 13 oed.

Cefais fy niagnosis bedair blynedd yn ôl. Roeddwn wedi blino, yn sychedig, yn pi-pi byth a hefyd, ac yn dioddef o'r llindag (thrush), un o symptomau diabetes sydd ddim yn cael ei drafod yn aml. Yn ffodus i mi, roedd gan y meddyg a welais ddiddordeb mewn diabetes.

Fe gefais brofion gwaed. Ar ddiwrnod y canlyniadau, ffoniais, a dywedasant nad oeddent yn gallu rhoi'r canlyniadau dros y ffôn, ond roeddent wedi gwneud apwyntiad i mi gyda'r nyrs diabetes, dau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Roedd hynny yn ychydig o gliw, ond roedd yn beryglus oherwydd yn yr ychydig ddyddiau hynny penderfynais y byddwn yn achub y blaen ar y gwaith dysgu. Teipiais diabetes yn Google a dod o hyd i straeon am gymhlethdodau, straeon erchyll, a dim llawer ohonynt gyda diweddglo hapus.

Daeth mam gyda fi i'r apwyntiad, erbyn hynny roedd fy nerfau yn rhacs. Nid wy'n cofio llawer, ar wahân i wybodaeth am newidiadau ffordd o fyw. Nid oedd yna wybodaeth wedi'i hargraffu, na thaflenni.

Ar ôl yr apwyntiad, aeth y ddwy ohonom i siopa, ac roedd edrych ar fanylion ar labeli bwyd yn ddigon i dorri'ch calon. Roeddwn yn teimlo mor rhwystredig, gadewais fy nhroli yng nghanol y siop a mynd adref. Roeddwn yn meddwl bod fy mywyd ar ben.

Des i deimlo'n hunanymwybodol am fwyta o flaen pobl, yn wirioneddol paranoid, oherwydd bod pobl yn gofyn 'wyt ti'n cael bwyta hwnna' a 'dyliet ti fwyta hwnna?' Ar ôl hynny dechreuais orfwyta ar fy mhen fy hun.

Roeddwn ar goll am chwe mis.

Sarah G 4.gallery.jpg

Roeddwn ar raglen adalw gyda meddyg teulu ac un diwrnod gwelais gerdyn post yn hysbysebu digwyddiad diabetes y diwrnod wedyn. Roedd yna 200 o bobl yno o Gasnewydd. Diabetes UK oedd yn rhedeg y digwyddiad, ac roedd yna nyrsys, meddygon ymgynghorol, dietegwyr a chynrychiolwyr o'r elusen yno.

Rhoddodd pawb eu llaw i fyny pan ofynnwyd a fyddem yn hoffi cael grŵp cymorth. Roeddwn dipyn yn ieuengach na'r gweddill a chodais y syniad o sefydlu grŵp gyda swyddfa Diabetes UK Cymru yng Nghaerdydd. Roedd yna gryn dipyn o waith i drefnu popeth, ond mae'r gefnogaeth rydym wedi'i chael gan yr elusen wedi bod yn wych.

Dyw e ddim fel fi o gwbl. Cyn (i mi gael diabetes), roeddwn ofn fy nghysgod. Nid ydw i erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o'r blaen. Daeth tua 40 o bobl i'r lansiad gan gynnwys meddygon ymgynghorol, nyrsys, nyrsys practis, dietegwyr - roedd yn wych.

Rydym yn trefnu siaradwyr gwadd i drafod materion sy'n gysylltiedig â diabetes. Mae iechyd meddwl yn bwnc pwysig. Rwyf wedi bod yn ceisio cael rhywun i siarad am iechyd meddwl ers dwy flynedd, ac o'r diwedd, mae gennym rywun yn dod i'r cyfarfod nesaf.

Mae yna gymaint o bobl yn byw gyda hyn. Croesawom aelod newydd yr wythnos diwethaf, a dywedodd ef: "Nid oeddwn yn gwybod bod yna grŵp fel hyn yn bodoli. Rwyf wedi dioddef o ddiabetes ers 8 mlynedd a byddai'n dda gennyf petawn wedi clywed am y grŵp cyn hyn."

Mae mwyafrif y grŵp yn dioddef o ddiabetes Math 2, ond mae yna rai sy'n dioddef o ddiabetes Math 1 hefyd.

Digwyddais glywed sgwrs unwaith rhwng dau o bobl a dywedodd un ohonynt: "Nid wy'n byw gyda diabetes, mae'n byw gyda fi ac yn ôl fy rheolau i." Roedd honno'n foment bwysig iawn i mi.

O ran meddyginiaeth, rwy'n cymryd Metformin, sy'n cael ei ddefnyddio i drin ail gam diabetes Math 2. Deiet ac ymarfer corff yw'r 'driniaeth' ar gyfer y cam cyntaf. Am 18 mis, cyflwynwyd gwahanol fathau o feddyginiaethau hefyd i geisio helpu, ond nid oeddwn yn cael canlyniadau da.

Awgrymodd y meddyg y dylwn roi cynnig ar inswlin. Y peth cyntaf a ddaeth i'n meddwl oedd: "Ni allaf chwistrellu fy hun." "Nid wy'n hoffi nodwyddau.

Mae rhaid i mi fod yno i fy mhlant, felly roedd rhaid i mi ddod dros hynny, ac mae nodwyddau pen yn ffantastig. Cwrddais â'r fenyw a wnaeth eu dyfeisio nhw, a dywedais wrthi "waw - rydych chi wedi newid fy mywyd".

Mae bod yn ymwybodol o lefel y siwgr yn y gwaed yn bwysig iawn. Nid yw 'hyper' - pan mae yna ormod o siwgr yn y gwaed - mor beryglus â 'hypo' - dim digon o siwgr yn y gwaed - ond mae'n gallu gwneud i chi deimlo reit sâl.

 

Sarah G 3.jpgPan oeddwn wrthi'n hyfforddi ar gyfer y daith gerdded Pontydd Llundain, defnyddiais y groesfan wrth ymyl y ffynhonnau dŵr gyferbyn â'r bont droed yng Nghasnewydd. Cerddais ar draws i'r canol, ond pan ddes i at yr ail groesfan, nid oeddwn yn gwybod sut i ddefnyddio'r botymau.

Yn ffodus i mi, roedd yna rywun arall yn croesi a llwyddais i groesi. Roeddwn yn gwybod beth oedd yn bod, a llwyddais i brofi fy ngwaed, ac roedd y lefel yn +3.5. Y dywediad yw 'llai na phedwar, rwyt ti ar dy bedwar'.

Cafodd effaith arnaf am ddau neu dri diwrnod, ac er fy mod wedi ei drin yn sydyn cafodd effaith anferthol. Roeddwn yn profi fy ngwaed llawer mwy na'r angen oherwydd fy mod yn paranoid am ei fod wedi dod drosof mor sydyn.

Mae fy mhrofiad gyda diabetes wedi newid y ffordd rwyf yn edrych ar bobl. Roedd yna fenyw yn gorwedd ar ei chefn yn Sgwâr John Frost gyda photel o sieri dan ei chesail. Roedd hi'n ddiwrnod chwilboeth.

Cerddais yn fy mlaen, ond nid oeddwn yn teimlo'n gyfforddus felly ffoniais y staff diogelwch a gofyn i rywun fynd i weld a oedd y fenyw yn iawn. Nid yw hynny'n rhywbeth y byddwn wedi'i wneud o'r blaen.

Roeddwn i eisiau codi arian at Diabetes UK Cymru am fod yr elusen wedi bod yn gymaint o gefn i mi a fy nheulu. Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl ac roedd y Daith Gerdded Pontydd Llundain yn edrych yn dda.

Y tro cyntaf, wnes i ddim hyfforddi ymlaen llaw. Cerddodd y merched gyda mi a chymerodd 6 awr i ni gwblhau'r daith. Roedd yr ymdeimlad o lwyddo yn anferth. Croesais y llinell derfyn a chrio am rhyw awr. Mae'n rhywbeth na fyddwn, mae'n debyg, fyth wedi ystyried ei wneud, mynd allan i gerdded 10 milltir.

Yna meddyliais yr hoffwn ei wneud eto, ond nid cymryd chwe awr i gwblhau'r daith. Daeth Bronwyn gyda mi a gwnaethom eithaf tipyn o hyfforddi ymlaen llaw. Cefais atgyfeiriad gan fy meddyg teulu i wneud rhaglen ymarfer corff.

Rwyf wedi ymgymryd â sawl rôl wirfoddol. Rwy'n gyfrannwr cyhoeddus i Uned Ymchwil Diabetes Cymru, ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r uned yn annog ymchwil ym maes diabetes.

Rydym yn cael cynigion ar gyfer ymchwil posib ac maent yn gofyn i ni eu hadolygu o ran ymarferoldeb a pherthnasedd. Gofynnir i ni gyflwyno sylwadau ac adborth.

Rwyf hefyd yn aelod lleyg o Grŵp Cynghori Gwyddoniaeth ac Ymchwil i'r elusen Diabetes UK, yn helpu i edrych ar flaenoriaethau ymchwil.

Cefais wahoddiad i gynhadledd broffesiynol Diabetes UK yn Llundain, profiad anhygoel, ac rwyf ar banel cyfeirio cleifion diabetes i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Rwy'n gydlynydd cwrs addysg strwythuredig am ddiabetes Math 2, y rhaglen X-Pert.

Nid wy'n hoffi dweud 'na' oherwydd ei fod yn rhywbeth sy'n cael effaith ar gymaint o bobl.

Maent yn dweud bod un ym mhob pedwar o bobl naill ai'n cael triniaeth ddiabetes neu gyda pherthynas neu ffrind sy'n dioddef o'r cyflwr. Mae'n nifer sylweddol, ac mae yna dros 8,000 o bobl yng Nghasnewydd gyda diabetes, ac mae yna o leiaf 2,000 o bobl gyda'r cyflwr, ond heb gael diagnosis neu ddim yn sylweddoli bod ganddynt y cyflwr.

Petawn yn siarad â rhywun sydd newydd gael diagnosis, byddwn yn dweud peidiwch â dychryn, chwiliwch am rywun i siarad gyda, dewch i ymuno â'r grŵp a byddwn yn rhoi gwybodaeth iddynt.

Byddwn yn dweud, cymerwch gam yn ôl, peidiwch â phanicio. Pan gefais i'r diagnosis, roeddwn eisiau i rywun ddweud "Sarah, tyrd i gael coffi a sgwrs". Mae'n gallu teimlo'n unig, ond nid oes rhaid i chi fod felly.

Penwythnos diwethaf, fe wnes i, Sarah Gibbs, ennill Gwobr Cefnogi Eraill gan Diabetes UK Cymru.

 

Mae Grŵp Diabetes UK Casnewydd yn cwrdd ar y drydedd nos Iau o bob mis, 7pm-8.30pm, yn Neuadd Eglwys Sant Julius a Sant Aaron, Heather Road, Casnewydd, NP19 7JT.

Ewch i: www.newport.diabetesukgroup.org

Ebost: newportdiabetesukgroup@gmail.com

www.facebook.com/NewportDiabetesUKGroup

Twitter: @Newportdiabetes